Hanes | Gwynedd Disposables
top of page

Hanes

Hanes

Hanes

Sefydlwyd Gwynedd Disposables gan Alan a Hazel Graham yn 1974. Nod y busnes teuluol oedd darparu gwasanaeth effeithiol a chyfeillgar i gyflenwi cynnyrch safonol am brisiau cystadleuol.

​

Dechreuodd y cwmni fasnachu o bentref Trefor cyn symud i unedau busnes pwrpasol ar Stad Glanydon ym Mhwllheli yn yr 80au cynnar.

 

Yn ddiweddarach ymunodd eu merch Dawn a’u mab yng nghyfraith Simon gyda’r busnes wrth iddo ffynnu ac ennill enw da am y dewis eang o gynnyrch a gwasanaeth cwsmer heb ei ail.

​

Wedi bron i hanner can mlynedd fel cwmni teuluol, penderfynodd y teulu werthu’r cwmni i deulu busnes lleol arall ym mis Medi 2021. Bellach mae tri o weithwyr profiadol a thalentog yr hen gwmni yn camu ymlaen i redeg y cwmni newydd Gwynedd Disposables Cyf gyda’r her o barhau’r stori lwyddiannus.

bottom of page